Yr Ardal
Mae'r ardal gyfagos yn cynnig llwybrau arfordirol golygus i’r gogledd tuag at y Bermo neu'r de tuag at bentref hardd Aberdyfi sy'n ddelfrydol ar gyfer hwylio, pysgota, ymlacio ac wrth gwrs y Cwrs Golff Pencampwriaeth 18 twll sydd rhwng y pedair milltir o dywod euraidd yn ymestyn rhwng Tywyn ac Aberdyfi. Mae yna lawer o lwybrau troed arbennig o hardd i gerddwyr a digon o lwybrau beicio i feicwyr. Ar gyfer y rhai mwy anturus, mae Canolfan Coed-y-Brenin, sy'n cynnig llwybrau coedwigoedd a mynyddoedd hawdd i'r rhai anoddaf. Hefyd yng Nghoed-y-Brenin mae'n bosib y byddwch yn dod o hyd i Antur Coeden cyntaf y DU.
Tua pedair milltir o'r Parc Gwyliau fe welir Rhaeadr Dolgoch Falls sy'n rhan o nant Nant Dolgoch sy'n llifo i mewn i'r Afon Fathew ym Mryncrug. Yma gallwch edrych ar y nifer o lwybrau a fydd yn eich arwain at Orsaf Dolgoch gerllaw at Reilffordd Talyllyn.
Mae Tywyn yn gartref i reilffordd stêm enwog Y Reilffordd Talyllyn, a fydd yn mynd â chi ar daith heibio ffrydiau, rhaeadrau a thrwy dirwedd prydferth mynyddoedd Meirionnydd sy'n ysgogi dirgelwch Y Celtaid. Bob blwyddyn, ym mis Awst, ceir digwyddiad traws gwlad, “Race The Train”. Digwyddiad sydd yn cael ei drefnu gan Reilffordd Talyllyn a Chlwb Rotari Tywyn. Y mae’r ras hon yn boblogaidd gyda rhedwyr o bob cwr o'r byd.
Y mae Tywyn yn gyfleus i gerddwyr sydd a diddordeb i gerdded fyny Cader Idris, Craig y Deryn neu amrywiaeth o daithfeydd gwych sydd yn cynnig golygfeydd godidog o Ddyffryn Dysynni.
Hefyd mae'r dref yn cynnig amrywiaeth o gyfleusterau megis: -
Canolfan Hamdden gyda'r Pwll Nofio, Ystafell Steam, Sawna, Ystafell Ffitrwydd, Tenis Agored
Parc Hamdden Tywyn gyda Golff, Tenis, Bowlio a llawer mwy.
Sinema Y Lantarn Hud